logo NewsUK

English

 

Cau'r ffenestr hon | Mynd i dudalen Cynnwys Help

Help NewsUK: Pynciau Newyddion

Beth yw tudalennau Pwnc Newyddion?

Mae tudalennau Pwnc Newyddion yn dod ag amrywiaeth o ddeunyddiau ynghyd sy'n berthnasol i bwnc penodol, gan gynnwys erthyglau, delweddau a Gwefannau. Gallwch ddefnyddio tudalennau Pwnc Newyddion i gasglu gwybodaeth gefndir a chyd-destun am faterion cyfoes fel cynhesu byd-eang a therfysgaeth.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Sut mae gweld Pwnc Newyddion?

Mae'r brif dudalen Pynciau Newyddion yn rhestru 131 o bynciau dan 15 pennawd thema cyffredinol. Cliciwch ar enw sydd wedi'i danlinellu i agor y dudalen pwnc berthnasol.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Beth alla i ei wneud yn y dudalen Pwnc Newyddion?

Rhennir pob Pwnc Newyddion yn sawl adran. Gallwch sgrolio i lawr y dudalen i adran sydd o ddiddordeb i chi neu glicio ar bennawd yn y rhestr wrth frig y dudalen i neidio'n syth i adran benodol.

O'r adrannau penawdau Diweddar ac Erthyglau cefndir gallwch glicio ar deitl sydd wedi'i danlinellu i weld testun llawn erthygl. Caiff erthyglau allweddol a allai fod yn fan cychwyn defnyddiol i'r pwnc eu marcio gyda'r symbol info, ac maent yn ymddangos ar gefndir lliw.

Gallwch weld delweddau maint llawn gyda chapsiynau o'r adran Delweddau, a'u hargraffu.

Gallwch agor Gwefannau sydd wedi'u dethol yn ofalus o'r adran Dolenni Gwe ac awgrymu Gwefannau defnyddiol y gallem eu hychwanegu at yr adran.

Gallwch weld Pynciau Newyddion perthnasol drwy glicio dolen yn yr adran Pynciau Cysylltiedig.

Os yw eich llyfrgell wedi tanysgrifio i KnowUK hefyd, efallai bydd adran ychwanegol (dolenni KnowUK) yn ymddangos ar rai tudalennau Pwnc Newyddion sy'n eich galluogi i fynd yn syth at ddeunyddiau perthnasol yn KnowUK, ein gwasanaeth cyfeirio.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Sut mae newid Pwnc Newyddion?

Cliciwch y ddolen Dewiswch Bwnc Newyddion arall ar frig y dudalen a dewiswch bwnc newydd o'r rhestr ar y prif dudalen Pynciau Newyddion.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN


logo Chadwyck-Healey Copyright © 2004-2010 ProQuest LLC. All Rights Reserved.