logo NewsUK

English

 

Cau'r ffenestr hon | Mynd i dudalen Cynnwys Help

Help NewsUK: Rhestr o’r Canlyniadau

Beth yw'r Rhestr o’r Canlyniadau?

Mae'r Rhestr o’r Canlyniadau yn dangos canlyniadau eich chwiliadau'n gryno. Mae pob canlyniad yn y rhestr yn cynnwys:

  • Rhif sy'n nodi safle'r canlyniad yn y rhestr.
  • Eicon sy'n nodi'r math o gynnwys (papurau newydd rhanbarthol neu genedlaethol, cylchgronau, delweddau newyddion a phynciau newyddion).
  • Teitl yr erthygl, sy'n hyperddolen i destun llawn yr erthygl.
  • Y papur newydd neu'r cylchgrawn sy'n cynnwys yr erthygl
  • Y dyddiad cyhoeddi, enw'r awdur a rhif y dudalen lle mae'n dechrau.
  • Bydd yr enghraifft gyntaf o'ch term chwilio'n ymddangos wedi'i amlygu mewn llinell o gyd-destun pan fo hynny'n berthnasol.

O fan hyn gallwch ddewis gweld gweddill canlyniadau eich chwiliad neu weld testun llawn erthygl.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Ym mha drefn dangosir y Rhestr o’r Canlyniadau? Alla i newid y drefn?

Yn ddiofyn, rhestrir y canlyniadau mewn trefn gronolegol am yn ôl gan ddangos yr erthyglau diweddaraf yn gyntaf.

Cliciwch y ddolen perthnasedd i ad-drefnu'r rhestr yn ôl perthnasedd. Pennir perthnasedd yn ôl sawl ffactor, gan gynnwys sawl gwaith mae eich term chwilio'n ymddangos mewn cofnod.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Doedd dim canlyniadau. Pam?

Mae chwilio drwy NewsUK yn broses awtomataidd, ac felly rhaid i chi fod yn glir iawn ynghylch yr hyn rydych am ei ganfod.

  • Gwnewch yn siwr nad ydych wedi camsillafu unrhyw un o'r termau chwilio. Gallwch adolygu eich dewisiadau sillafu a chwilio am dermau eraill- gweler y cyfarwyddiadau isod.
    Gallwch hefyd ddefnyddio 'seren chwilio' os nad ydych yn siwr sut mae sillafu gair neu os ydych am ddod o hyd i eiriau cysylltiedig.
  • Yn ddiofyn, bydd NewsUK yn chwilio drwy newyddion diweddar yn unig (nodir yr amrediad dyddiadau ar frig y Rhestr o’r Canlyniadau). Rhowch gynnig ar newid yr amrediad dyddiadau o'r dudalen Chwiliad Manwl neu cliciwch y ddolen Chwilio archif newyddion cyfan ar ôl Chwilio’r Newyddion.
  • Os byddwch yn dewis amrediad dyddiadau a chyhoeddiad o'r dudalen Chwiliad Manwl, gwnewch yn siwr bod y cyhoeddiad perthnasol ar gael ar gyfer yr amrediad a ddewiswyd gennych (cliciwch y ddolen gwybodaeth am fodolaeth y ddarpariaeth ar y dudalen Chwiliad Manwl).
  • Ydych chi wedi talfyrru enw? Rhowch gynnig ar roi enw'r person yn llawn.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Credaf fy mod wedi camsillafu un o'm termau chwilio. Sut mae chwilio am eiriau sydd wedi'u sillafu'n wahanol i'r Rhestr o’r Canlyniadau?

Os ydych wedi chwilio drwy ddefnyddio'r blwch Chwilio’r Newyddion, ond na all NewsUK ganfod enghreifftiau o'ch term chwilio yn y gronfa ddata, bydd ei swyddogaeth gwirio sillafu'n dangos rhestr o'r 3 sillafiad arall mwyaf amlwg y ceir cyfatebiad iddynt yn y gronfa ddata. Os oes un o'r awgrymiadau'n cyfateb i'r term yr oeddech wedi bwriadu chwilio amdano, gallwch chwilio eto drwy ddefnyddio'r term cywir o'r Rhestr o’r Canlyniadau.

Er mwyn ailadrodd chwiliad wedi'i gamsillafu drwy ddefnyddio un o'r termau a awgrymir:

  1. Dewiswch y term chwilio rydych am chwilio amdano o'r rhestr o ddewisiadau sillafu ar frig y Rhestr o’r Canlyniadau drwy glicio arno gyda'r llygoden.
  2. Cliciwch y botwm Chwilio.
  3. Bydd hyn yn creu Rhestr o’r Canlyniadau ar gyfer eich chwiliad newydd.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Sut mae gweld testun llawn erthygl yn y Rhestr o’r Canlyniadau?

Dim ond y cam cyntaf at weld testun llawn yr erthygl yw'r Rhestr o Erthyglau. Cliciwch ar deitl erthygl sydd wedi'i danlinellu i weld yr Erthygl Lawn.

Pan fo'n berthnasol, bydd pob canlyniad yn y rhestr yn cynnwys llinell o destun a fydd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf o'ch term(au) chwilio. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod yr erthyglau hynny a fydd o'r defnydd mwyaf i chi.

Mae gan NewsUK fersiynau PDF o erthyglau ar gyfer rhai o'i gylchgronau. Os oes fersiwn PDF o erthygl ar gael dangosir dolen Testun llawn - PDF. Cliciwch y ddolen hon i agor yr erthygl PDF mewn ffenestr newydd yn y porwr.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Roedd gormod o ganlyniadau! Sut mae cael llai?

Fel yr eglurwyd uchod, dylai'r canlyniadau mwyaf defnyddiol fod ar frig y rhestr.

Serch hynny, mae modd i chi ailadrodd eich chwiliad ond drwy fod yn fwy penodol y tro hwn. Ceisiwch ychwanegu rhagor o eiriau allweddol, neu ddefnyddio dewisiadau'r botwm radio Chwiliad Manwl i chwilio am yr holl eiriau neu'r union ymadrodd. Gallwch hefyd geisio cyfyngu eich chwiliad i deitl yr erthygl, awdur, amrediad dyddiadau neu gyhoeddiad penodol drwy ddefnyddio'r dudalen Chwiliad Manwl.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Sut mae gweld erthyglau a restrir ar ôl rhif 25? Alla i newid nifer yr erthyglau a ddangosir ar y dudalen Rhestr o’r Canlyniadau?

Rhestrir 25 erthygl fesul tudalen. Er mwyn gweld erthyglau a restrir ar ôl y pumed cofnod ar hugain, gallwch newid nifer y canlyniadau a ddangosir fesul tudalen i 50 drwy glicio'r ddolen berthnasol ar frig y dudalen. Fel arall, gallwch symud drwy'r tudalennau Rhestr o Erthyglau drwy glicio'r dolenni rhifau tudalen ar waelod y dudalen.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Sut mae gweld Rhestr o’r Canlyniadau ar gyfer un math o gynnwys yn unig?

Mae'r Rhestr o’r Canlyniadau yn dangos pob cofnod ym mhob categori (papurau newydd cenedlaethol neu ranbarthol, cylchgronau, delweddau newyddion a phynciau newyddion). Os gwyddoch mai dim ond canlyniadau o un categori penodol rydych am eu gweld, gallwch weld canlyniadau'r categori hwnnw'n unig.

Rhestrir yr holl gategorïau sy'n cynnwys canlyniadau ar ochr chwith y dudalen Rhestr o’r Canlyniadau, ynghyd ag arwydd o nifer y canlyniadau a geir yn y categori hwnnw. Er mwyn gweld Rhestr o’r Canlyniadau ar gyfer categori penodol, cliciwch enw'r categori sydd wedi'i danlinellu. Bydd hyn yn agor tudalen Rhestr o'r Canlyniadau ar gyfer Categori, a fydd yn rhestru canlyniadau'r categori y mae gennych ddiddordeb ynddo'n unig. Gallwch ddychwelyd i'ch tudalen Rhestr o'r Canlyniadau gwreiddiol drwy glicio'r ddolen Yn ôl i'r Rhestr Lawn o'r Canlyniadau.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Sut mae ychwanegu chwiliad at Fy Archif?

O'r Rhestr o’r Canlyniadau yn dilyn Chwiliad Manwl neu Chwilio'r Newyddion, gallwch gadw termau eich chwiliad yn rhan Chwiliadau a Gadwyd Fy Archif. Os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi i Fy Archif gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, bydd angen i chi wneud hynny.

Gweler yma ragor o wybodaeth am greu proffil defnyddiwr Fy Archif.

Gallwch gadw chwiliad o'r Rhestr o’r Canlyniadau drwy glicio'r ddolen Cadw chwiliad ar frig y dudalen.

Os nad ydych wedi creu unrhyw ffolderi yn Fy Archif, gofynnir i chi enwi ffolder newydd ar gyfer cadw eich chwiliad. Teipiwch enw'r ffolder a chlicio Cadw.

Os ydych eisoes wedi creu ffolderi yn Fy Archif, gallwch naill ai gadw'r chwiliad mewn ffolder sydd eisoes yn bodoli drwy ddewis o'r gwymplen, neu greu ffolder newydd fel y dangosir uchod.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN

Rwyf wedi gorffen chwilio. Beth nesaf?

Gallwch ddechrau chwiliad newydd o'r Rhestr o’r Canlyniadau drwy ddefnyddio'r blwch Chwilio’r Newyddion ar frig y dudalen. Teipiwch y gair/geiriau rydych am chwilio amdano/amdanynt yn y blwch Chwilio. Fel arall, os ydych wedi llunio chwiliad cymhleth drwy ddefnyddio'r dudalen Chwiliad Manwl a'ch bod am olygu'r chwiliad hwnnw, cliciwch y ddolen Chwilio eto? ar frig y dudalen Rhestr o’r Canlyniadau.

Ar ôl i chi orffen chwilio, gallwch ddychwelyd i'r Hafan i weld beth arall sydd gan NewsUK i'w gynnig.

Os yw eich llyfrgell wedi tanysgrifio i KnowUK hefyd, bydd dolen ychwanegol yn ymddangos ar y Rhestr o’r Canlyniadau ar ôl Chwiliad Chwilio’r Newyddion sy'n eich galluogi i wneud yr un chwiliad yn KnowUK, ein gwasanaeth cyfeirio.

YN ÔL I FRIG Y DUDALEN


logo Chadwyck-Healey Copyright © 2004-2010 ProQuest LLC. All Rights Reserved.